6. Oherwydd os bydd iddo, o chwerwder ei enaid, dy felltithio,bydd ei Greawdwr yn gwrando ar ei ddeisyfiad.
7. Gwna dy hun yn annwyl i'r gynulleidfa,a moesymgryma i'r mawrion.
8. Gostwng dy glust at y tlawdac ateb ef â geiriau heddychlon a llednais.
9. Gwared y sawl sy'n cael cam o law ei gamdriniwr,a phaid â bod yn wangalon wrth weinyddu barn.
10. I'r plant amddifad, bydd fel tad,ac i'w mam, cymer le ei gŵr;byddi felly fel mab i'r Goruchaf,a chei dy garu ganddo'n fwy na chan dy fam dy hun.
11. Y mae doethineb yn dyrchafu ei phlantac yn cynorthwyo'r rhai sy'n ei cheisio.
12. A'i câr hi a gâr fywyd;a ddaw ati yn fore a lenwir â llawenydd.
13. A lŷn wrthi a etifedda ogoniant,a lle bynnag yr â rhydd yr Arglwydd ei fendith.
14. A weinydda arni hi a wasanaetha'r Sanct;a'i câr hi a gerir gan yr Arglwydd.
15. A fydd yn ufudd iddi a farna'r cenhedloedd;a rydd sylw iddi a gaiff gartref diogel.
16. Os ymddirieda ynddi, fe'i caiff hi'n etifeddiaeth,a bydd cenedlaethau o'i blant yn ei meddu.