Ecclesiasticus 38:28-34 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

28. Felly hefyd y gof: y mae'n eistedd wrth yr eingion,yn craffu ar yr haearn sydd i'w weithio;bydd mwg ei dân yn crychu ei gnawdwrth iddo frwydro yng ngwres y ffwrnais;bydd sŵn y morthwyl yn atseinio yn ei glustiau,a'i lygaid yn syllu ar ei batrwm;ar gwblhau'r gwaith y rhydd ei fryd,a chyll ei gwsg i'w orffen yn gelfydd.

29. Felly hefyd y crochenydd: y mae'n eistedd wrth ei waithac yn troi'r dröell â'i draed,mewn pryder yn wastad am ei waith,i gwblhau'r nifer a osodwyd iddo.

30. Â'i fraich y mae'n moldio'r clai,gan blygu tua'r llawr o'i flaen i arfer ei nerth.Ar sgleinio'r gwaith yn berffaith y rhydd ef ei fryd,a chyll ei gwsg i garthu'r ffwrnais.

31. Y mae'r rhain oll a'u hyder yn eu dwylo'u hunain,ac y mae pob un yn feistr ar ei grefft.

32. Hebddynt ni chyfanheddir dinas;ni ddaw iddi na thrigolion na theithwyr.

33. Eto ni ofynnir amdanynt ar gyfer cyngor y bobl,ac ni chodant i safle uchel yn y cynulliad;nid eisteddant ar fainc yr ynadon,ac ni allant ddeall dyfarniadau cyfreithiolnac esbonio egwyddorion disgyblaeth a chosb;ac ni cheir mohonynt yn traethu gwirebau.

34. Ond hwy sydd yn cynnal adeiladwaith y byd,a dilyn eu crefft yw eu gweddi.

Ecclesiasticus 38