Ecclesiasticus 38:22-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

22. Cofia'r farn a ddaeth arnaf fi, mai felly y daw arnat tithau—arnaf fi ddoe, ac arnat tithau heddiw.

23. Pan roddir y marw i orffwys, pâr i'w goffadwriaeth hefyd orffwys,ac ymgysura amdano, fod ei ysbryd wedi dianc.

24. O'i gyfle i gael hamdden y daw doethineb i rywun o ddysg;y lleiaf ei orchwylion a ddaw'n ddoeth.

25. Sut y gall rhywun ddod yn ddoeth, ac yntau wrth gyrn yr aradr,a'i ymffrost i gyd yn ei fedr â'r wialen,a'i fryd yn llwyr ar ychen, ac ar eugyrru yn eu gwaith,heb fod ganddo unrhyw sgwrs ond am loi teirw?

26. Ar droi cwysi y rhydd ei fryd,a chyll ei gwsg i roi porthiant i'r heffrod.

Ecclesiasticus 38