Ecclesiasticus 37:11-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

11. Paid ag ymgynghori â gwraig ynglŷn â'i chystadleuydd,nac â llwfrgi ynglŷn â rhyfel,nac â masnachwr ynglŷn â'i brisiau,nac â phrynwr ynglŷn â gwerthu,nac â'r crintachlyd ynglŷn â diolchgarwch,nac â'r angharedig ynglŷn â chymwynasgarwch,nac â diogyn ynglŷn â gwaith o unrhyw fath,nac â gwas a gyflogir wrth yr awr am orffen y gwaith,nac â gwas diog ynglŷn ag unrhyw orchwyl mawr;paid â gwrando ar gyngor y rhain ar unrhyw fater.

12. Ond yn hytrach bydd ddyfal yn ceisio cyngor y duwioly gwyddost ei fod yn cadw'r gorchmynion,un sydd o'r un anian â thydi dy hun.Cei gydymdeimlad hwnnw os digwydd iti faglu.

13. Glŷn wrth gyngor dy feddwl dy hun,gan na chei ddim y gelli ymddiried mwy ynddo.

14. Oherwydd gall ymwybyddiaeth rhywun weithiau ddweud mwy wrthona saith o wylwyr yn eistedd fry mewn tŵr gwylio.

15. Uwchlaw'r cwbl deisyf ar y Goruchaf,iddo ef dy gyfarwyddo ar hyd ffordd gwirionedd.

16. Dechrau pob gwaith yw ei drafod,ac yn blaenori ar bob ymgymeriad y mae ymgynghori.

17. Y mae newid yn y meddwl

18. yn dilyn pedwar tro ar fyd—da a drwg, bywyd a marwolaeth—a'r tafod sy'n eu rheoli bob un yn wastadol.

19. Gall rhywun fod yn amryddawn ac yn athro i lawer,ac eto fod yn anfuddiol iddo ef ei hun.

20. Gall rhywun fod yn feistr ar eiriau, ond yn atgas gan bawb;caiff hwn weld prinder bwyd,

21. am na roddodd yr Arglwydd raslonrwydd iddo,gan mor amddifad yw o ddoethineb.

22. Gall rhywun fod yn ddoeth er ei les ei hun,ond geiriau i'w credu fydd ffrwyth ei ddeallusrwydd.

23. Ond y dyn doeth, bydd ef yn athro i'w bobl ei hun,a phethau i'w credu fydd ffrwyth ei ddeallusrwydd.

Ecclesiasticus 37