Ecclesiasticus 36:17-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

17. Clyw, Arglwydd, weddi'r rhai sy'n ymbil arnat,yn ôl bendith Aaron i'th bobl.Yna caiff pawb sydd ar y ddaear wybodmai ti yw'r Arglwydd, y Duw tragwyddol.

18. Fe gymer y stumog bob math o fwyd,ond y mae rhagor rhwng bwyd a bwyd mewn blas.

19. Fel y mae'r genau'n blasu cig yr helfa,y mae meddwl deallus yn synhwyro geiriau celwyddog.

20. Y mae meddwl gwrthnysig yn peri gofid,ond gall y profiadol ei dalu'n ôl.

21. Fe gymer benyw bob math o ddyn yn ŵr,ond y mae rhagor rhwng merch a merch mewn gwerth.

22. Y mae prydferthwch benyw yn sirioli wyneb dyn,ac yn peri chwant dwysach na dim arall.

23. Os yw ei thafod yn garedig ac addfwyn,nid yw ei gŵr yn safle'r rhelyw o ddynion.

24. A gymero wraig a ddaw'n berchen golud,ymgeledd cymwys iddo a cholofn i bwyso arni.

Ecclesiasticus 36