Ecclesiasticus 36:1-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Trugarha wrthym, O Arglwydd Dduw pawb; edrych arnom

2. a phâr i'r holl genhedloedd dy ofni di.

3. Cod dy law yn erbyn cenhedloedd estron,iddynt gael edrych ar dy allu di.

4. Fel y gwelsant hwy dy sancteiddrwydd yn ein hanes ni,gad i ninnau weld dy fawredd yn eu hanes hwy.

5. A phâr iddynt hwy ddeall, fel y deallasom ninnau,nad oes Duw ond tydi, O Arglwydd.

6. Gwna arwyddion newydd a rhyfeddodau gwahanol,i ddangos gogoniant dy law a'th fraich dde.

7. Deffro dy lid a thywallt dy ddigofaint;difroda dy wrthwynebwyr a difa dy elyn.

Ecclesiasticus 36