Ecclesiasticus 34:8-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

8. Cyflawnir y gyfraith heb gymorth y fath gelwydd,a chyflawnir doethineb ar enau geirwir.

9. Y mae'r sawl sydd wedi teithio wedi dysgu llawer,a bydd yr helaeth ei brofiead yn traethu synnwyr.

10. Ychydig a ŵyr y prin ei brofiad,ond bydd y sawl sydd wedi teithio yn amlhau ei fedrau.

11. Rwyf wedi gweld llawer ar fy nheithiau,ac rwy'n amgyffred pethau sydd y tu hwnt i'm geiriau.

12. Yn fynych bûm mewn perygl am fy einioes,ond dihengais ar bwys y profiadau hyn.

13. Byw fydd ysbryd y rhai sy'n ofni'r Arglwydd,oherwydd y mae eu gobaith ar un sy'n eu hachub.

Ecclesiasticus 34