Ecclesiasticus 3:5-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

5. Yr hwn sy'n anrhydeddu ei dad, caiff yntau lawenydd gan ei blant,a phan ddaw dydd iddo weddïo, gwrandewir arno.

6. Yr hwn sy'n anrhydeddu ei dad, fe wêl hir ddyddiau,a'r hwn sy'n ufuddhau i'r Arglwydd, rhydd orffwys i'w fam.

7. A bydd yn gweini ar ei rieni fel caethwas ar ei feistri.

8. Parcha dy dad ar weithred ac ar air,er mwyn i'w fendith ddisgyn arnat.

Ecclesiasticus 3