Ecclesiasticus 3:10-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

10. Paid â cheisio clod i ti dy hun ar draul anfri dy dad,canys nid clod i ti yw anfri dy dad.

11. Oherwydd daw clod i ddyn o'r bri a roddir i'w dad,a gwarth i blant yw anghlod eu mam.

12. Fy mab, cynorthwya dy dad yn ei henaint,a phaid â'i dristáu tra bydd ef byw.

13. A phan fydd ei synnwyr yn pallu, dylit gydymddwyn ag ef,a phaid â'i ddirmygu am dy fod ti yn dy lawn gryfder.

Ecclesiasticus 3