Ecclesiasticus 29:14-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

14. Rhywun da fydd yn mechnïo dros ei gymydog,ac un a gollodd bob cywilydd fydd yn cefnu arno.

15. Paid ag anghofio caredigrwydd dy fechnïwr,oherwydd fe roes ei fywyd er dy fwyn.

16. Y pechadurus fydd yn dymchwel llwyddiant ei fechnïwr,a'r diddiolch fydd yn gollwng dros gof y sawl a'i gwaredodd.

17. Dinistriodd mechnïaeth lawer a rai cefnog,a'u siglo fel y gwna tonnau'r môr;

18. gyrrodd rai nerthol o'u cartrefii grwydro mewn gwledydd estron.

19. Pan fydd pechadur yn ymrwymo i fechnïaetha'i fryd ar elw, ymrwymo y bydd i achosion llys.

Ecclesiasticus 29