Ecclesiasticus 27:16-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

16. Y mae bradychwr cyfrinach wedi diddymu pob ymddiriedaeth ynddo,ac ni chaiff gyfaill mynwesol byth mwy.

17. Câr dy gyfaill a bydd yn ffyddlon iddo,ond os bradychi ei gyfrinach, paid â'i ganlyn mwy.

18. Oherwydd fel y dinistriodd rhywun ei elyn,felly y dinistriaist ti gyfeillgarwch dy gymydog;

19. ac fel y gollyngaist aderyn o'th law,felly y gadewaist i'th gymydog fynd, ac ni chei afael arno eto.

20. Paid â'i ganlyn, oherwydd ciliodd ymhell oddi wrthyt,dihangodd fel ewig o rwyd.

21. Oherwydd gellir rhwymo archoll,a chymodi ar ôl difenwi,ond nid oes gan fradychwr cyfrinach ddim i obeithio amdano.

22. Y mae'r sawl sy'n wincio yn dyfeisio drwg,ac nid oes neb a'i ceidw oddi wrtho.

23. Geiriau melys a draetha i'th wyneb,a bydd yn dotio at dy eiriau dithau,ond wedyn bydd yn newid ei dônac yn dy faglu â'th eiriau dy hun.

Ecclesiasticus 27