Ecclesiasticus 27:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Pechodd llawer er mwyn elw;y mae'r sawl a fyn ymgyfoethogi yn barod i gau ei lygad.

2. Fel hoelen wedi ei hoelio rhwng cydiad meini,y mae pechod yn ymwthio rhwng prynu a gwerthu.

3. Oni lŷn rhywun yn frwd wrth ofn yr Arglwydd,buan y dymchwelir ei dŷ.

4. Wedi ysgwyd gogr, erys y gwehilion;felly y daw gwaethaf rhywun i'r wyneb wrth iddo ddadlau.

Ecclesiasticus 27