Ecclesiasticus 26:4-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. yn gyfoethog neu'n dlawd, bydd eu calon yn llona'u hwyneb bob amser yn siriol.

5. Rhag tri pheth y brawychodd fy nghalon,ac y mae pedwerydd yr wyf yn dychryn rhag ei weddenllib dinas, cynulliad torf,a gaudystiolaeth—pethau blin, gwaeth nag angau, bob un.

6. Gofid calon a thrallod yw cenfigen gwraig wrth wraig arall,a llach ei thafod ar bawb yn ddiwahân.

7. Y mae gwraig faleisus fel iau anesmwyth,a dal gafael ynddi fel cydio mewn ysgorpion.

8. Peri dicter mawr y mae gwraig feddw;ni all guddio'i gwarth ei hun.

Ecclesiasticus 26