Ecclesiasticus 25:7-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

7. Y mae naw peth sy'n wynfydedig yn fy meddwl,a'r degfed yr wyf am ei draethu ar lafar:dyn yn cael llawenydd yn ei blant;dyn yn byw i weld cwymp ei elynion;

8. gwyn ei fyd y gŵr a chanddo wraig ddeallus yn ei gartref,a'r sawl na lithrodd â'i dafod;a'r sawl na fu'n was i feistr annheilwng ohono;

9. gwyn ei fyd y sawl a gafodd hyd i ddealltwriaeth;a'r sawl sy'n traethu yng nghlyw rhai sy'n gwrando arno.

10. Mor fawr yw'r sawl a ddaeth o hyd i ddoethineb!Ond nid oes neb mwy na'r sawl sy'n ofni'r Arglwydd.

11. Y mae ofn yr Arglwydd yn rhagori ar bopeth;pwy sydd i'w gymharu â'r sawl sydd â'i afael arno?

13. Unrhyw glwyf ond clwyf i'r galon!Unrhyw falais ond malais gwraig!

14. Unrhyw aflwydd ond aflwydd o du caseion!Unrhyw ddial ond dial gelynion!

15. Nid oes gwenwyn gwaeth na gwenwyn sarff,na llid gwaeth na llid gelyn.

16. Dewisach gennyf gartrefu gyda llew neu ddraigna chartrefu gyda gwraig faleisus.

Ecclesiasticus 25