Ecclesiasticus 24:9-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

9. O'r dechreuad, cyn bod y byd, y creodd fi,a hyd y diwedd ni bydd darfod arnaf ddim.

10. Yn y tabernacl sanctaidd bûm yn gweini ger ei fron,ac felly fe'm sefydlwyd yn Seion.

11. Dyma sut y gwnaeth imi orffwys yn y ddinas sy'n annwyl ganddo,ac y daeth imi awdurdod yn Jerwsalem.

12. Bwriais fy ngwreiddiau ymhlith pobl freintiedig,pobl sy'n gyfran yr Arglwydd ac yn etifeddiaeth iddo.

13. Tyfais fel cedrwydden yn Lebanonac fel cypreswydden ar lethrau Hermon;

14. tyfais fel palmwydden yn En-gedi,ac fel prennau rhosod yn Jericho;fel olewydden hardd ar wastatiry tyfais, neu fel planwydden.

15. Fel sinamon ac aspalathus rhoddais sawr perlysiau,ac fel myrr dethol taenais fy mherarogl,fel galbanum ac onyx a stacte,ac fel arogldarth thus yn y tabernacl.

Ecclesiasticus 24