Ecclesiasticus 24:28-32 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

28. Ni lwyddodd y dyn cyntaf i'w llwyr amgyffred,na'r olaf chwaith i'w holrhain hi.

29. Llawnach na'r môr yw ei meddyliau hi,a'i chyngor na'r dyfnfor diwaelod.

30. Minnau, fel camlas yn llifo o afony deuthum allan, fel ffrwd yn rhedeg i ardd.

31. “Dyfrhaf fy ngardd,” meddwn,“a diodaf ei gwelyau hi.”A dyna'r gamlas yn troi'n afon imi,a'm hafon yn troi'n fôr.

32. Paraf eto i addysg oleuo fel y wawr,ac i'w goleuni ddisgleirio ymhell.

Ecclesiasticus 24