Ecclesiasticus 24:27-31 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

27. y mae'n peri i addysg ddisgleirio fel goleuni,ac fel Gihon yn nyddiau'r cynhaeaf gwin.

28. Ni lwyddodd y dyn cyntaf i'w llwyr amgyffred,na'r olaf chwaith i'w holrhain hi.

29. Llawnach na'r môr yw ei meddyliau hi,a'i chyngor na'r dyfnfor diwaelod.

30. Minnau, fel camlas yn llifo o afony deuthum allan, fel ffrwd yn rhedeg i ardd.

31. “Dyfrhaf fy ngardd,” meddwn,“a diodaf ei gwelyau hi.”A dyna'r gamlas yn troi'n afon imi,a'm hafon yn troi'n fôr.

Ecclesiasticus 24