Ecclesiasticus 24:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Dyma fydd molawd doethineb iddi ei hunan,a'i hymffrost ymhlith ei phobl;

2. dyma eiriau ei genau yng nghynulleidfa'r Goruchaf,a'i hymffrost yng ngŵydd ei lu nefol:

3. “Myfi yw'r gair o enau'r Goruchaf,a gorchuddiais y ddaear fel niwl.

4. Myfi a osodais fy mhabell yn yr uchelderau,ac y mae fy ngorsedd mewn colofn o gwmwl.

Ecclesiasticus 24