Ecclesiasticus 23:3-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

3. Ni fynnwn i'm camsyniadau fynd ar gynnyddnac i'm pechodau amlhau,nac i minnau syrthio o flaen fy ngwrthwynebwyr,nac i'm gelynion grechwen am fy mhen.

4. O Arglwydd, fy Nhad a Duw fy mywyd,paid â'm gwneud yn drahaus fy edrychiad,

5. ac ymlid oddi wrthyf bob trachwant.

6. Na foed i lythineb na blys gael gafael ynof,a phaid â'm traddodi i reolaeth nwyd digywilydd.

7. Gwrandewch, feibion, sut i ddisgyblu'r genau;ni rwydir neb sydd ar ei wyliadwriaeth.

8. Wrth ei wefusau y delir pechadur,a thrwyddynt hefyd y daw cwymp i'r difenwr a'r balch.

9. Paid ag arfer dy enau i dyngu llw,a phaid â chynefino â dweud enw'r Un sanctaidd.

10. Oherwydd fel na fydd gwas a ffangellir yn barhausyn brin o gleisiau,felly ni chaiff y sawl sy'n tyngu o hyd yn enw Duwei lanhau oddi wrth bechod.

Ecclesiasticus 23