Ecclesiasticus 22:20-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

20. Y mae taflu carreg at adar yn tarfu arnynt,ac y mae edliw i gyfaill yn difa'r cyfeillgarwch.

21. Os tynnaist gleddyf ar gyfaill,paid ag anobeithio; y mae modd adfer y cyfeillgarwch.

22. Os ymosodaist ar gyfaill â'th dafod,paid â phoeni; y mae cymod yn bosibl.Ond edliw a balchder a bradychu cyfrinach a chernod dwyllodrus—o brofi'r rhain ffoi a wna pob cyfaill.

23. Ennill ymddiriedaeth dy gymydog yn ei dlodi,fel y cei gydgyfranogi ag ef yn ei lwyddiant;glŷn wrtho yn amser ei gyfyngder,fel y cei ran gydag ef yn ei etifeddiaeth.

24. Ceir tawch a mwg o'r ffwrnais cyn bod fflam,a'r un modd ddifenwi cyn tywallt gwaed.

25. Ni bydd arnaf gywilydd cysgodi cyfaill;nid ymguddiaf rhag iddo fy ngweld.

Ecclesiasticus 22