14. Beth sy'n drymach na phlwm?Pa enw sydd arno ond Ffŵl?
15. Tywod, halen a thalp o haearn,maent i gyd yn llai o faich na rhywun diddeall.
16. Os bydd y trawsbren wedi ei osod yn ddiogel mewn adeilad,ni symudir ef o'i le gan ddaeargryn.Felly'r meddwl, pan fydd yn sefyll yn gadarn ar gyngor doeth,ni therfir arno mewn argyfwng.
17. Y mae'r meddwl a gadarnhawyd gan syniadau deallusfel pared llyfn wedi ei blastro'n gain.
18. Ffens wedi ei gosod ar dir uchel,ni saif yn hir yn nannedd y gwynt.Felly'r meddwl a wnaed yn ofnus gan ddychmygion ffôl,ni saif yn hir yn wyneb yr un dychryn a ddaw.
19. Y mae pigo'r llygad yn tynnu dagrau ohono,ac y mae pigo'r meddwl yn amlygu ei hydeimledd.
20. Y mae taflu carreg at adar yn tarfu arnynt,ac y mae edliw i gyfaill yn difa'r cyfeillgarwch.
21. Os tynnaist gleddyf ar gyfaill,paid ag anobeithio; y mae modd adfer y cyfeillgarwch.