Ecclesiasticus 21:7-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

7. Adwaenir o bell yr un rhugl ei dafod,ond y mae'r call yn gwybod pan yw'n llithro.

8. Y mae'r sawl sy'n adeiladu ei dŷ ag arian pobl eraillfel un yn casglu iddo'i hun gerrig at y gaeaf.

9. Pentwr o danwydd yw cynulliad y digyfraith,a fflamau tân fydd eu diwedd hwy.

10. Y mae ffordd pechaduriaid wedi ei phalmantu â cherrig,ond ei therfyn yw pydew Trigfan y Meirw.

11. Y mae'r sawl sy'n cadw'r gyfraith yn feistr ar ei feddyliau ei hun,a chyflawni ofn yr Arglwydd y mae doethineb.

12. Y sawl nad yw'n glyfar, ni ellir ei hyfforddi,ond y mae yna glyfrwch sy'n lledu chwerwedd.

13. Y mae gwybodaeth y doeth yn ymledu fel llifddyfroedd,a'i gyngor fel dŵr bywiol y ffynnon.

Ecclesiasticus 21