Ecclesiasticus 21:4-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. Bydd dychryn a rhyfyg yn anrheithio cyfoeth;felly yr anrheithir tŷ'r balch.

5. Daw deisyfiad o enau'r tlawd i glustiau Duw,a daw ei ddyfarniad ef yn ôl yn ddi-oed.

6. Y mae rhywun sy'n casáu cerydd yn dilyn camre pechadur,ond y mae'r sawl sy'n ofni'r Arglwydd yn edifarhau o'i galon.

7. Adwaenir o bell yr un rhugl ei dafod,ond y mae'r call yn gwybod pan yw'n llithro.

8. Y mae'r sawl sy'n adeiladu ei dŷ ag arian pobl eraillfel un yn casglu iddo'i hun gerrig at y gaeaf.

9. Pentwr o danwydd yw cynulliad y digyfraith,a fflamau tân fydd eu diwedd hwy.

Ecclesiasticus 21