Ecclesiasticus 19:8-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

8. Paid ag adrodd hanes na chyfaill na gelyn,na datgelu ei gyfrinach, oni fydd tewi yn bechod ynot.

9. Oherwydd os bydd ef wedi dy glywed a chael achos i'th amau,bydd yntau yn ei dro yn dy gasáu di.

10. A glywaist ti hel straeon? Gad iddi farw gyda thi.Paid â phoeni, gelli eu chadw heb iti ffrwydro.

11. Y ffôl fydd mewn gwewyr am y straeon a daenir amdano,fel gwraig wrth esgor ar blentyn.

12. Fel saeth a lynodd ym morddwyd rhywun,felly y mae straeon ym mol y ffôl.

13. Hola gyfaill; dichon na wnaeth ddim,ac os gwnaeth, dichon nas gwna eto.

14. Hola dy gymydog; dichon na ddywedodd ddim,ac os dywedodd, dichon nas dywed eilwaith.

15. Hola gyfaill; oherwydd yn fynych enllib a gafodd;paid â choelio pob clep a glywi.

16. Gall rhywun lithro'n anfwriadol;pwy sydd na phechodd â'i dafod?

17. Hola dy gymydog cyn ei fygwth;rho ei chyfle i gyfraith y Goruchaf.

20. Ofn yr Arglwydd yw pob doethineb,a chynnwys pob doethineb yw cyflawni'r gyfraith.

22. Nid doethineb yw gwybodaeth o ddrygioni,ac nis ceir lle cyfrifir cyngor pechaduriaid yn synnwyr.

Ecclesiasticus 19