Ecclesiasticus 19:2-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

2. Y mae gwin a mercheta yn arwain dynion call ar gyfeiliorn,a chynyddu mewn rhyfyg y bydd yr hwn sy'n ymlynu wrth buteiniaid.

3. Fe â'n ysglyfaeth i bydredd a phryfed;darfod amdano a wna'r rhyfygus.

4. Penwan yw'r parod ei ymddiriedaeth,ac er niwed iddo'i hun y mae rhywun yn pechu.

5. Collfarn sy'n aros y sawl sy'n ymfalchïo yn ei feddwl,

6. ond llai fydd y niwed i'r sawl sy'n casáu clebran.

7. Paid byth ag ailadrodd gair a glywi,ac ni fyddi byth ar dy golled.

8. Paid ag adrodd hanes na chyfaill na gelyn,na datgelu ei gyfrinach, oni fydd tewi yn bechod ynot.

Ecclesiasticus 19