Ecclesiasticus 18:21-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

21. Ymddarostwng cyn iti glafychu,a phan ddaw cyfle i bechu, dangos dy gefn iddo.

22. Paid â gadael i ddim dy rwystro rhag cyflawni adduned yn brydlon,a phaid ag oedi nes y byddi'n marw cyn cael gollyngdod oddi wrthi.

23. Cyn gwneud adduned paratoa dy hun,a phaid â bod fel rhywun yn gosod yr Arglwydd ar brawf.

24. Cofia'r digofaint a wynebi yn nyddiau dy ddiwedd,yn amser dial Duw, pan dry ymaith ei wyneb.

25. Yn amser digonedd, cofia amser newyn,ac yn nyddiau cyfoeth, cofia amser tlodi ac angen.

Ecclesiasticus 18