Ecclesiasticus 17:7-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

7. Llanwodd hwy â gwybodaeth a deall,a dangos iddynt dda a drwg.

8. Cadwodd ei olwg ar eu calonnau,i ddangos iddynt fawredd ei weithredoedd.

10. Clodforant hwy ei enw sanctaidd,gan fynegi mawredd ei weithredoedd.

11. Rhoddodd hefyd iddynt wybodaeth,a chyfraith bywyd yn etifeddiaeth.

12. Gwnaeth gyfamod tragwyddol â hwy,a dangos iddynt ei ddyfarniadau.

13. Gwelodd eu llygaid fawredd ei ogoniant,a chlywodd eu clust ogoniant ei lais.

Ecclesiasticus 17