Ecclesiasticus 17:17-29 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

17. I bob cenedl penododd lywodraethwr,ond cyfran yr Arglwydd yw Israel.

19. Y mae eu holl weithredoedd mor glir iddo â'r haul,ac y mae ei lygaid ar eu ffyrdd yn wastadol.

20. Ni chuddiwyd eu hanghyfiawnder rhagddo;y mae eu holl bechodau gerbron yr Arglwydd.

22. Y mae elusennau rhywun fel sêl-fodrwy yn ei olwg,ac y mae'n trysori graslonrwydd fel cannwyll ei lygad.

23. Yn y diwedd bydd yn codi ac yn talu'n ôl i'r drwgweithredwyr,gan fwrw ar eu pennau eu cosb haeddiannol.

24. Ond i'r edifeiriol y mae'n rhoi llwybr adferiad,ac yn calonogi'r diffygiol i ddyfalbarhau.

25. Tro at yr Arglwydd a chefna ar bechodau;gweddïa ger ei fron a lleiha dy gamwedd.

26. Dychwel at y Goruchaf a thro oddi wrth anghyfiawnder,a bydd fawr dy gasineb at y ffieiddbeth.

27. Pwy a glodfora'r Goruchaf yn Nhrigfan y Meirw,a chymryd lle'r byw i'w foliannu yn y côr?

28. Pan fydd rhywun farw, derfydd ei foliant fel petai ef wedi peidio â bod;y sawl sy'n fyw ac yn iach a glodfora'r Arglwydd.

29. Mor fawr yw trugaredd yr Arglwydd,a'i faddeuant i'r rhai sy'n troi ato!

Ecclesiasticus 17