Ecclesiasticus 17:1-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Creodd yr Arglwydd bobl o'r ddaear,a'u hanfon yn ôl iddi hi drachefn.

2. Rhoddodd i bobl ddyddiau wrth rif, a thymor bywyd,a rhoes iddynt awdurdod dros bopeth ar y ddaear.

3. Gwisgodd hwy â nerth tebyg i'r eiddo'i hun;gwnaeth hwy ar ei ddelw ei hun.

4. Rhoes eu hofn ar bob creadur,a'u gwneud yn arglwyddi ar anifeiliaid ac adar.

6. Ewyllys, tafod a llygad,clust a meddwl, doniau Duw ydynt i roi dirnadaeth iddynt.

Ecclesiasticus 17