Ecclesiasticus 14:4-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. A helia oddi arno ef ei hun a helia i eraill;eraill a gaiff fyw'n foethus ar ei gyfoeth ef.

5. A fo'n greulon wrtho ef ei hun, wrth bwy y bydd yn dirion?Ni chaiff lawenydd fyth yn ei feddiannau.

6. Nid oes neb creulonach na'r sawl sy'n gybyddlyd ag ef ei hun;dyna'i wobr am ei grintachrwydd.

7. Hyd yn oed os yw'n hael, nid yw felly o fwriad,ac yn y diwedd amlygir ei grintachrwydd.

8. Creulon yw'r sawl sydd â llygad cybydd ganddo;y mae'n troi ei wyneb ymaith ac yn diystyru pobl eraill.

9. Nid yw llygad y trachwantus yn fodlon ar ei gyfran,ac y mae ei anghyfiawnder creulon yn crebachu ei enaid.

10. Y mae llygad creulon yn eiddigeddus am ei fara,a llwm yw'r bwrdd a hulia.

Ecclesiasticus 14