Ecclesiasticus 14:3-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

3. I rywun crintachlyd nid lles mo'i gyfoeth;ac i gybydd, pa fudd ei feddiannau?

4. A helia oddi arno ef ei hun a helia i eraill;eraill a gaiff fyw'n foethus ar ei gyfoeth ef.

5. A fo'n greulon wrtho ef ei hun, wrth bwy y bydd yn dirion?Ni chaiff lawenydd fyth yn ei feddiannau.

6. Nid oes neb creulonach na'r sawl sy'n gybyddlyd ag ef ei hun;dyna'i wobr am ei grintachrwydd.

Ecclesiasticus 14