Ecclesiasticus 13:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Y sawl sy'n cyffwrdd â phyg, fe'i baeddir,a'r sawl sy'n cymdeithasu â'r balch, fe â'n debyg iddo.

2. Paid â chodi baich sy'n rhy drwm iti,a phaid â chymdeithasu â rhywun cryfach a chyfoethocach na thi.Sut y mae llestr pridd i gymdeithasu â chrochan haearn,ac yntau o daro'r crochan yn chwalu'n chwilfriw?

3. Bydd y cyfoethog yn gwneud cam, ac ef fydd uchaf ei gloch;bydd yn tlawd yn cael cam, ac ef fydd yn crefu am bardwn.

4. Os gelli fod o les iddo, bydd y cyfoethog yn dy ddefnyddio;ond os byddi mewn angen, dy anwybyddu y bydd.

5. Os bydd rhywbeth gennyt wrth gefn, fe ddaw i fyw gyda thi,a'th ddisbyddu'n llwyr heb boeni dim.

Ecclesiasticus 13