Ecclesiasticus 11:12-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

12. Gall rhywunn fod yn araf ac mewn angen am help llaw,yn ddiffygiol mewn nerth ac yn llawn tlodi;eto y mae llygaid yr Arglwydd yn edrych arno er ei les,yn ei godi allan o'i ddistadledd,

13. ac yn dyrchafu ei ben ef,nes bod llawer yn rhyfeddu ato.

14. Llwydd ac aflwydd, bywyd a marwolaeth,tlodi a chyfoeth, oddi wrth yr Arglwydd y deuant i gyd.

Ecclesiasticus 11