Ecclesiasticus 11:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Y mae doethineb y gostyngedig yn dyrchafu ei benac yn ei osod i eistedd yng nghanol mawrion.

2. Paid â chanmol neb ar gyfrif ei harddwch,na ffieiddio neb ar gyfrif ei wedd.

3. Ymhlith ehediaid un fechan yw'r wenynen,ond ei chynnyrch hi yw'r pennaf o bopeth melys.

4. Paid ag ymfalchïo yn y dillad a wisgi,nac ymddyrchafu pan ddaw anrhydedd i'th ran.Oherwydd rhyfeddol yw gweithredoedd yr Arglwydd;cuddiedig yw ei weithredoedd o olwg pobl.

5. Y mae llawer teyrn wedi gorfod eistedd ar y llawr,a rhywun disylw wedi gwisgo diadem.

Ecclesiasticus 11