Ecclesiasticus 10:25-29 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

25. Caiff caethwas doeth rai rhydd i weini arno,ac ni bydd neb call yn cwyno.

26. Paid â bod yn rhy ddoeth i wneud dy waith,na'th fawrhau dy hun pan yw'n gyfyng arnat.

27. Gwell yw gweithio, a bod ar ben dy ddigon o bopeth,na'th fawrhau dy hun a bod heb fara.

28. Fy mab, gogonedda dy hun mewn gwyleidd-dra,ac anrhydedda dy hun yn ôl dy deilyngdod.

29. Pwy a gyfiawnha'r sawl sy'n pechu yn ei erbyn ei hun?A phwy a anrhydedda'r sawl sy'n ei amharchu ei hun?

Ecclesiasticus 10