Ecclesiasticus 1:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Oddi wrth yr Arglwydd y daw pob doethineb,a chydag ef y mae am byth.

2. Tywod y môr, a dafnau'r glaw,a dyddiau tragwyddoldeb, pwy all eu rhifo?

3. Uchder y nef, a lled y ddaear,a'r dyfnder diwaelod, a doethineb, pwy all eu holrhain?

4. Y mae doethineb wedi ei chreu o flaen pob peth,a phwyll dealltwriaeth yn bod erioed.

Ecclesiasticus 1