Doethineb Solomon 5:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Yna fe saif y cyfiawn yn llawn hyder, ac wynebu ei ormeswyra'r rhai sy'n diystyru ei gur.

2. O'i weld, fe'u hysgydwir gan ofn a dychryn,a'u drysu gan mor annisgwyl oedd ei ymwared.

3. Yn llawn edifeirwch dywedant y naill wrth y llall,gan ochneidio o gyfyngder ysbryd:

4. “Dyma'r un a fu gynt yn gyff gwawd i ni,ac yn ddihareb gan ein dirmyg ohono. Dyna ffyliaid oeddem,yn ystyried ei fuchedd yn wallgofrwydda'i ddiwedd yn warth!

5. Sut y cafodd ei gyfrif ymhlith plant Duw?Sut y mae cyfran iddo ymhlith y saint?

Doethineb Solomon 5