Doethineb Solomon 4:5-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

5. Rhwygir ei frigau i ffwrdd cyn dod i'w llawn dwf;bydd ei ffrwyth yn ddiwerth ac anaeddfed i'w fwyta,heb fod yn dda i ddim yn y byd.

6. Oherwydd bydd plant a genhedlir o gydorwedd anghyfreithlonyn dystiolaeth i bechod eu rhieni yn nydd yr archwiliad arnynt.

7. Ond bydd y cyfiawn, er iddo farw'n gynnar, yn gorffwys mewn hedd.

8. Nid hirhoedledd sy'n rhoi ei werth i henaint,ac nid amlder blynyddoedd yw ei fesur.

9. Nage, dealltwriaeth sy'n rhoi urddas penwynni i bobl,a bywyd difrycheulyd a ddyry iddynt aeddfedrwydd henaint.

10. Yr oedd gŵr yr ymhyfrydodd Duw ynddo a'i garu;am ei fod yn byw ymhlith pechaduriaid, fe'i cymerodd ef ato'i hun.

11. Fe'i cipiodd ymaith rhag i ddrygioni wyrdroi ei ddeallneu i ddichell dwyllo'i enaid.

12. Oherwydd y mae hud oferedd yn bwrw daioni i'r cysgod,a chwirligwgan chwant yn troi pen y diniwed.

13. Yng nghyflawniad oes fer cwblhaodd hir flynyddoedd.

14. Yr oedd ei enaid wrth fodd yr Arglwydd;dyna pam y brysiodd ef i'w dynnu o ganol drygioni.Ond er iddynt weld, ni ddeallodd y cenhedloeddy fath ddigwyddiad, na dwyn i ystyriaeth

15. fod gras a thrugaredd gan Dduw i'w etholedigion,a chymorth amserol i'w saint.

16. Bydd y cyfiawn a fu farw yn condemnio'r annuwiol sy'n dal i fyw,a'r ifanc, a ddaeth i ddiwedd cynnar, yn condemnio hirhoedledd yr anghyfiawn.

Doethineb Solomon 4