Doethineb Solomon 4:10-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

10. Yr oedd gŵr yr ymhyfrydodd Duw ynddo a'i garu;am ei fod yn byw ymhlith pechaduriaid, fe'i cymerodd ef ato'i hun.

11. Fe'i cipiodd ymaith rhag i ddrygioni wyrdroi ei ddeallneu i ddichell dwyllo'i enaid.

12. Oherwydd y mae hud oferedd yn bwrw daioni i'r cysgod,a chwirligwgan chwant yn troi pen y diniwed.

13. Yng nghyflawniad oes fer cwblhaodd hir flynyddoedd.

14. Yr oedd ei enaid wrth fodd yr Arglwydd;dyna pam y brysiodd ef i'w dynnu o ganol drygioni.Ond er iddynt weld, ni ddeallodd y cenhedloeddy fath ddigwyddiad, na dwyn i ystyriaeth

15. fod gras a thrugaredd gan Dduw i'w etholedigion,a chymorth amserol i'w saint.

16. Bydd y cyfiawn a fu farw yn condemnio'r annuwiol sy'n dal i fyw,a'r ifanc, a ddaeth i ddiwedd cynnar, yn condemnio hirhoedledd yr anghyfiawn.

Doethineb Solomon 4