Doethineb Solomon 3:3-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

3. a'u mynediad oddi wrthym yn ddistryw;ond y maent mewn hedd.

4. Oherwydd er i gosb ddod arnynt yng ngolwg pobl,digoll yw eu gobaith am anfarwoldeb;

5. ac er eu disgyblu ychydig, mawr fydd eu hennill,am fod Duw wedi eu profia'u cael yn deilwng ohono ef ei hun.

6. Fel aur mewn tawddlestr y profodd hwy,ac fel poethoffrwm yr aberth y derbyniodd hwy.

7. Pan ddaw Duw i ymweld â hwy cyneuant yn wenfflam;fel gwreichion mewn sofl fe redant drwy'r byd.

8. Cânt lywodraethu ar genhedloedd a rheoli ar bobloedd,a'r Arglwydd fydd eu brenin am byth.

Doethineb Solomon 3