Diarhebion 8:21-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

21. a rhoddaf gyfoeth i'r rhai a'm câr,a llenwi eu trysordai.

22. “Lluniodd yr ARGLWYDD fi ar ddechrau ei waith,yn gyntaf o'i weithredoedd gynt.

23. Fe'm sefydlwyd yn y gorffennol pell,yn y dechrau, cyn bod daear.

24. Ganwyd fi cyn bod dyfnderau,cyn bod ffynhonnau yn llawn dŵr.

25. Cyn gosod sylfeini'r mynyddoedd,cyn bod y bryniau, y ganwyd fi,

26. cyn iddo greu tir a meysydd,ac o flaen pridd y ddaear.

Diarhebion 8