Diarhebion 8:20-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

20. Rhodiaf ar hyd ffordd cyfiawnder,ar ganol llwybrau barn,

21. a rhoddaf gyfoeth i'r rhai a'm câr,a llenwi eu trysordai.

22. “Lluniodd yr ARGLWYDD fi ar ddechrau ei waith,yn gyntaf o'i weithredoedd gynt.

23. Fe'm sefydlwyd yn y gorffennol pell,yn y dechrau, cyn bod daear.

24. Ganwyd fi cyn bod dyfnderau,cyn bod ffynhonnau yn llawn dŵr.

25. Cyn gosod sylfeini'r mynyddoedd,cyn bod y bryniau, y ganwyd fi,

Diarhebion 8