Diarhebion 8:15-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

15. Trwof fi y teyrnasa brenhinoedd,ac y llunia llywodraethwyr ddeddfau cyfiawn.

16. Trwof fi y caiff tywysogion awdurdod,ac y barna penaethiaid yn gyfiawn.

17. Yr wyf yn caru pob un sy'n fy ngharu i,ac y mae'r rhai sy'n fy ngheisio'n ddyfal yn fy nghael.

Diarhebion 8