Diarhebion 6:16-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

16. Chwe pheth sy'n gas gan yr ARGLWYDD,saith peth sy'n ffiaidd ganddo:

17. llygaid balch, tafod ffals,dwylo'n tywallt gwaed dieuog,

18. calon yn cynllunio oferedd,traed yn prysuro i wneud drwg,

19. gau dyst yn dweud celwydd,ac un sy'n codi cynnen rhwng perthnasau.

20. Fy mab, cadw orchymyn dy dad;paid ag anwybyddu cyfarwyddyd dy fam;

21. clyma hwy'n wastad yn dy galon,rhwym hwy am dy wddf.

22. Fe'th arweiniant ple bynnag yr ei,a gwylio drosot pan orffwysi,ac ymddiddan â thi pan gyfodi.

Diarhebion 6