Diarhebion 6:12-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

12. Un dieflig, un drwg,sy'n taenu geiriau dichellgar,

13. yn wincio â'i lygad, yn pwnio â'i droed,ac yn gwneud arwyddion â'i fysedd.

14. Ei fwriad yw gwyrdroi, cynllunio drwg yn wastad,a chreu cynnen.

15. Am hynny daw dinistr arno yn ddisymwth;fe'i dryllir yn sydyn heb fodd i'w arbed.

16. Chwe pheth sy'n gas gan yr ARGLWYDD,saith peth sy'n ffiaidd ganddo:

Diarhebion 6