Diarhebion 5:1-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Fy mab, rho sylw i'm doethineb,a gwrando ar fy neall,

2. er mwyn iti ddal ar synnwyrac i'th wefusau ddiogelu deall.

3. Y mae gwefusau'r wraig ddieithr yn diferu mêl,a'i geiriau yn llyfnach nag olew,

4. ond yn y diwedd y mae'n chwerwach na wermod,yn llymach na chleddyf daufiniog.

5. Prysura ei thraed at farwolaeth,ac arwain ei chamre i Sheol.

6. Nid yw hi'n ystyried llwybr bywyd;y mae ei ffyrdd yn anwadal, a hithau'n ddi-hid.

7. Ond yn awr, blant, gwrandewch arnaf,a pheidiwch â throi oddi wrth fy ymadroddion.

Diarhebion 5