Diarhebion 4:12-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

12. Pan gerddi, ni rwystrir dy gam,a phan redi, ni fyddi'n baglu.

13. Glŷn wrth addysg, a hynny'n ddiollwng;dal d'afael ynddi, oherwydd hi yw dy fywyd.

14. Paid â dilyn llwybr y drygionus,na cherdded ffordd pobl ddrwg;

15. gochel hi, paid â'i throedio,tro oddi wrthi a dos yn dy flaen.

16. Oherwydd ni allant hwy gysgu os na fyddant wedi gwneud drwg;collant gwsg os na fyddant wedi baglu rhywun.

17. Y maent yn bwyta bara a gafwyd trwy dwyll,ac yn yfed gwin gormes.

18. Y mae llwybr y cyfiawn fel golau'r wawr,sy'n cynyddu yn ei lewyrch hyd ganol dydd.

Diarhebion 4