Diarhebion 31:23-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

23. Y mae ei gŵr yn adnabyddus yn y pyrth,pan yw'n eistedd gyda henuriaid yr ardal.

24. Y mae'n gwneud gwisgoedd o liain ac yn eu gwerthu,ac yn darparu gwregysau i'r masnachwr.

25. Y mae wedi ei gwisgo â nerth ac anrhydedd,ac yn wynebu'r dyfodol dan chwerthin.

26. Y mae'n siarad yn ddoeth,a cheir cyfarwyddyd caredig ar ei thafod.

27. Y mae'n cadw golwg ar yr hyn sy'n digwydd i'w theulu,ac nid yw'n bwyta bara segurdod.

28. Y mae ei phlant yn tyfu ac yn ei bendithio;a bydd ei gŵr yn ei chanmol:

Diarhebion 31