Diarhebion 31:14-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

14. Y mae, fel llongau masnachwr,yn dwyn ei hymborth o bell.

15. Y mae'n codi cyn iddi ddyddio,yn darparu bwyd i'w thylwyth,ac yn trefnu gorchwylion ei morynion.

16. Ar ôl ystyried yn fanwl, y mae'n prynu maes,ac yn plannu gwinllan â'i henillion.

17. Y mae'n gwregysu ei llwynau â nerth,ac yn dangos mor gryf yw ei breichiau.

18. Y mae'n sicrhau bod ei busnes yn broffidiol,ac ni fydd ei lamp yn diffodd trwy'r nos.

19. Y mae'n gosod ei llaw ar y cogail,a'i dwylo'n gafael yn y werthyd.

Diarhebion 31