Diarhebion 31:12-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

12. Y mae'n gwneud daioni iddo yn hytrach na cholled,a hynny ar hyd ei hoes.

13. Y mae'n ceisio gwlân a llin,ac yn cael pleser o weithio â'i dwylo.

14. Y mae, fel llongau masnachwr,yn dwyn ei hymborth o bell.

15. Y mae'n codi cyn iddi ddyddio,yn darparu bwyd i'w thylwyth,ac yn trefnu gorchwylion ei morynion.

16. Ar ôl ystyried yn fanwl, y mae'n prynu maes,ac yn plannu gwinllan â'i henillion.

17. Y mae'n gwregysu ei llwynau â nerth,ac yn dangos mor gryf yw ei breichiau.

Diarhebion 31